Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Gorffennaf 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12321
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Datganiad gan y Llywydd
Dywedodd y Llywydd wrth yr Aelodau y cynhelir balot cyntaf y Senedd hon ar gyfer Biliau Aelodau ar 22 Medi. Cafodd gwybodaeth am y broses ei rhannu gydag Aelodau cyn diwedd y dydd.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Hysbyswyd y Llywydd, o dan Reol Sefydlog 12.58, y byddai’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.16
3 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
Dechreuodd yr eitem am 14.38
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.23 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Fforddiadwyedd, Ail Gartrefi a'r Gymraeg
Dechreuodd yr eitem am 15.43
5 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm - Y Camau Nesaf
Dechreuodd yr eitem am 16.29
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.53 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur
Dechreuodd yr eitem am 17.03
7 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth – y camau nesaf
Dechreuodd yr eitem am 17.43
Daeth y cyfarfod i ben am 18.18
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2021